Rhif y ddeiseb: P-06-1248

Teitl y ddeiseb: Dylid newid y Rheolau Sefydlog a’r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau.

Geiriad y ddeiseb: Ar hyn o bryd, mae deisebau sy'n ymwneud â phenderfyniadau gweithredol awdurdodau lleol yn cael eu gwrthod yn awtomatig gan y Pwyllgor Deisebau yn unol â’r Rheolau Sefydlog. Ar draws Cymru, mae awdurdodau lleol yn diystyru datganiadau Cynulliad Cymru, megis am yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur ac yn gwneud penderfyniadau sy'n mynd yn uniongyrchol groes i ddatganiadau o'r fath. Mae llawer o ffermydd yn cael eu colli tra bo cynghorau'n ceisio gwneud y gorau o’u refeniw drwy ganiatáu gwaith adeiladu ychwanegol ar dir llain las.

Ym mis Chwefror 2016, cynhaliodd y Pwyllgor Deisebau ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd ac adolygiad o drefniadau deisebau cyhoeddus. O dan eitem 17, cadarnhawyd bod 57 y cant o'r cyhoedd o blaid caniatáu deisebau am benderfyniadau gweithredol awdurdodau lleol ac roedd yr ymatebion gan ddeisebwyr yn gymysg. O dan eitem 21, nodwyd y canlynol: “Er gwaethaf yr ymatebion i'r arolwg ar-lein, ymddengys nad oedd cytundeb dros newid yn y maes hwn a rhesymau da dros beidio ag ymyrryd yn y broses leol o wneud penderfyniadau.” Mae hyn yn gwrthod hawl i'r cyhoedd ddefnyddio’r llwybr cywir i herio penderfyniadau awdurdodau lleol yn gywir sy'n mynd yn groes i'r nodau a'r ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud. Noda Polisi Cynllunio Cymru y canlynol: "Mae gan Weinidogion Cymru bwerau wrth gefn i wneud eu Gorchmynion Dirymu/Addasu neu Ddirwyn i Ben eu hunain, ond dim ond ar ôl ymgynghori â’r awdurdod cynllunio." Sut y gall y cyhoedd ofyn am hyn pan wrthodir deisebau’n awtomatig?

 

 


1.        Cefndir

Caiff y darpariaethau sy'n rheoli gweithdrefn ddeisebau cyhoeddus y Senedd eu nodi yn Rheol Sefydlog 23. O dan Reol Sefydlog 23.4, nid yw deiseb yn dderbyniadwy ‘os yw’n gofyn i’r Senedd wneud unrhyw beth y mae’n eglur nad oes gan y Senedd bŵer i’w wneud.’ Mae gwefan deisebau’r Senedd yn datgan bod hyn yn cynnwys ‘rhywbeth y mae… cyngor lleol yn gyfrifol amdano (gan gynnwys penderfyniadau cynllunio)’.

Cynhaliodd y Pwyllgor Deisebau adolygiad o drefniadau deisebau cyhoeddus yn 2016. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghori ar reolau derbyniadwyedd. Amlinellodd y Pwyllgor y meini prawf presennol fel a ganlyn:

Ar hyn o bryd, ni dderbynnir deisebau am benderfyniadau gweithredol awdurdodau lleol unigol. (Mae hyn hefyd yn ymestyn i benderfyniadau awdurdodau lleol ar faterion a allai ddod gerbron Llywodraeth Cymru, fel cau ysgolion a cheisiadau cynllunio.) I’r gwrthwyneb, mae deisebau ynghylch penderfyniadau gweithredol byrddau iechyd lleol yn dderbyniadwy.

Fel rhan o'i adolygiad, cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus ar feini prawf derbyniadwyedd, drwy arolwg ar-lein. Roedd 57% o’r 330 o ymatebwyr o blaid caniatáu deisebau am benderfyniadau gweithredol awdurdodau lleol.

At hynny, ymgynghorodd y Pwyllgor â rhanddeiliaid, gan gynnwys deisebwyr presennol a blaenorol, a chyrff cyhoeddus o bob rhan o Gymru. Roedd deisebwyr wedi’u rhannu’n gyfartal o blaid ac yn erbyn, tra bod rhanddeiliaid yn gyffredinol o blaid cynnal y trefniadau presennol.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad yr ‘ymddengys nad oedd cytundeb dros newid yn y maes hwn a rhesymau da dros beidio ag ymyrryd yn y broses leol o wneud penderfyniadau,’ ac awgrymodd na ddylai fod newid i reolau derbyniadwyedd.

Ni wnaeth adroddiad gwaddol y Pwyllgor Deisebau o'r Bumed Senedd roi sylw i unrhyw argymhelliad y dylai materion awdurdodau lleol gael eu dwyn o dan gylch gorchwyl system ddeisebau’r Senedd.

2.     Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i baratoi a chyhoeddi eu cynllun deisebau eu hunain. Mae'r Ddeddf yn nodi bod yn ‘rhaid i brif gyngor wneud a chyhoeddi cynllun (“cynllun deisebau”) sy’n nodi sut y mae’r cyngor yn bwriadu ymdrin â deisebau (gan gynnwys deisebau electronig) ac ymateb iddynt.’ Rhaid i gynllun nodi:

§    sut i gyflwyno deiseb i’r cyngor;

§    sut ac erbyn pryd y bydd y cyngor yn cydnabod ei fod wedi cael deiseb;

§    y camau y gall y cyngor eu cymryd mewn ymateb i ddeiseb y mae’n ei chael;

§    yr amgylchiadau (os oes rhai) pan allai’r cyngor beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn ymateb i ddeiseb; a

§    sut ac erbyn pryd y bydd y cyngor yn sicrhau bod ei ymateb i ddeiseb ar gael i’r person a gyflwynodd y ddeiseb ac i’r cyhoedd.

Cyn Deddf 2021, gallai awdurdodau lleol gynnal Pleidleisiau Cymunedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Nid yw Pleidleisiau Cymunedol yn rhwymo prif gynghorau a dim ond os bydd nifer digonol o etholwyr yn eu cefnogi mewn cyfarfod cymunedol y gellir eu deddfu.

Yn ei nodyn esboniadol i Ddeddf 2021, nododd Llywodraeth Cymru ddau opsiwn: cynnal sefyllfa bresennol Deddf 1972, neu gyflwyno dyletswydd statudol ar brif gynghorau i gyflwyno cynllun deisebau.

Wrth argymell opsiwn dau (dyletswydd statudol newydd), dadleuodd Llywodraeth Cymru y byddai’r darpariaethau yn ‘yn darparu fframwaith i alluogi cynghorau i ymgysylltu'n agored â'r cyhoedd’ ac y ‘byddai diddymu pleidleisiau cymunedol yn golygu bod y cyhoedd yn gallu cael mynediad at ddeisebau yn gynt ac yn haws.

Hyd yn hyn, nid yw'r darpariaethau hyn wedi’u rhoi ar waith. Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad i awdurdodau lleol ofyn cwestiynau am y cynllun newydd. Disgwylir i ganllawiau statudol newydd gael eu cyhoeddi cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.   

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.